|
..CYFOETH Y BYD
..
NODIADAU MAES AR GYFER AIL-DDYFEISIO
ENGLISH VERSION
Nid yw bob amser yn beth doeth i'r artist ddweud gormod am
ei waith ei hun; mae modd ei or-esbonio a'i or-resymoli. Fodd
bynnag, gall gwneud "nodiadau maes" fod yn weithgaredd
buddiol gan fod y rhain yn dweud wrth yr artist ble y mae,
a sut y cyrhaeddodd yno. Mae'r darnau hyn o ysgrifennu, y
nodiadau maes hyn, yn cael eu crynhoi ynghyd er lles i mi
yn gymaint ag i'r darllenydd. Mae rhannau ohonynt yn ddarnau
o draethodau gyhoeddwyd yn gynharach yn Planet a rhannau ohonynt
o bapur gyflwynwyd i gynhadledd dan yr enw Cyfoeth y Byd ym
1999.
Yn ei lyfr, Picasso's Mask1, mae Andre Malraux, y nofelydd
a'r athronydd o Ffrainc, yn cyflwyno'r syniad o 'Amgueddfa
heb Furiau'. Mae'r llyfr, sy'n fyfyrdod ar gelfyddyd yn gymaint
ag ydyw yn astudiaeth o Picasso, yn adrodd profiad yr awdur
pan gafodd ws gan weddw Picasso i ddethol gweithiau o gasgliad
lluniau ei chyn r, casgliad oedd wedi ei fwriadu ar gyfer
y Louvre. Wrth edrych ar rai darnau o'i waith ac wrth ystyried
y dylanwadau a ddarganfuwyd ac a feddiannwyd gan Picasso,
mae'n dwyn i gof ddarnau o sgyrsiau rhyngddo â Picasso.
Mae Malraux hefyd yn rhestru'r gweithiau celf a'r lleoedd
yn y byd y mae'n eu cynnwys yn ei 'Amgueddfa heb Furiau' ei
hun. Mae'n tynnu ar storfa helaeth o ddylanwadau celfyddydol,
"gwrthdrawiad canrifoedd" yn wir, a storfa sy'n
cwestiynu ei syniadau goleuedig Ewropeaidd am esblygiad diwylliannol
cynyddol. O gerflunwaith Neo-Swmeraidd 2150 CC yn y Louvre,
i Las Meninas Velasquez yn y Prado, o Olympia Manet i symbol
ffrwythlondeb Mesopotamaidd; o gasgliad Apollinaire o arteffactau
yn ei fyfyrgell, i Eglwysi Cadeiriol Romanésg; rhyddid
o hualau Ewropeaidd hanes fel sy'n amlwg mewn celfyddyd Affricanaidd;
harmoni celfyddyd Hindaidd a darnau rhyfeddol o gelfyddyd
Fesopotamaidd. Ac mae llawer o'r gwaith hwn wedi ei wneud
gan artistiaid anhysbys, gyda llawer ohonynt yn:
artistiaid a arbenigai yn y cysegredig ac yn hytrach
nag anwybyddu "natur", a'i dirmygai ac a'i darostyngai;
roedd fel petaent yn delio â byd gorwych - byd mwy gwir,
mwy parhaol ac, yn bwysicach fyth, byd mwy arwyddocaol na
byd yr ymddangosiadau allanol.2
Gweithiau celf fel y rhain roes ei syniadau i Picasso a pha
un ai yn ymwybodol ai peidio, (a'r olaf mi gredaf), yn ei
dro daw yntau yn bont rhyngom ni a nhw. Yr artist byd-eang,
casglwr holl gelfyddyd y byd sydd, yn ei ddwylo, yn mynd trwy
broses o drawsffurfiad, gan ddod yn rhywbeth newydd. Deallai
Picasso yn rhy dda baradocs hyn, fod y syniadau hyn a'r themâu
hyn wedi bod yn wastadol "newydd" ac y byddent o
hyd yn "newydd", ac mai'r cyfan a wnaeth ef oedd
eu hailddarganfod ar gyfer ei oes ei hun. Cyfunir elfennau
ymddangosiadol digyswllt, o gyfnodau gwahanol a diwylliannau
gwahanol, ac o'u cyfuno eu gwneud yn gyfamserol, fel rhan
o waith celf a wnaed yn y presennol hwn.
Fel hyn yr oedd hi i Picasso a dywed y llyfr wrthym y byddai
Rembrandt yn copïo miniaturau Indiaidd a bod Durer wedi
astudio'n ofalus y delwau bychain Astecaidd a ddangoswyd iddo
yn Antwerp, ac i wahanol raddau mae yr un mor wir am bob artist
beth bynnag fo'i statws. Syniadau yw'r deunydd crai y mae'n
rhaid i'r artist eu casglu er mwyn creu o'r newydd, ac mae
hefyd yn wir bod rhaid i'r gymuned ehangach, y wladwriaeth,
- galwch hi beth fynnoch - gasglu syniadau o'i chelfyddyd.
Nid rhywbeth difywyd yw celfyddyd, ond storfa o wybodaeth,
a chysylltiadau a syniadau. Mae'n dilyn felly bod rhaid i
gasgliad o gelfyddyd a syniadau yng Nghymru, fod yn berthnasol
i Gymru a'i phobl ac nid yn gopi o gasgliad rhywun arall,
oherwydd ar ddiwedd y dydd, a rhaid i'r gwleidyddwyr ddeall
hyn, mae celfyddyd yn ddrych o enaid cenedl. Mae'r ffaith
fod Malraux yn dal swydd lywodraethol fel Ysgrifennydd Materion
Diwylliannol yn dangos fod modd cyrraedd dealltwriaeth o'r
fath, er yn anfynych. Fel y gellid disgwyl, yn Ffrainc y digwyddodd
hyn.
Arddangoswyd casgliad personol o wrthrychau a chelfyddyd
Andre Breton, gweledydd mwyaf blaenllaw Swrrealaeth, yng Nghanolfan
Pompidou ym Mharis - 28 o ystafelloedd wedi eu llenwi â
530 o weithiau. Gan gyfuno greddf nythu gasglu gref gyda pher
siaman i gyfryngu rhwng delweddau, casglodd Breton agatau
ac Ernst, celfyddyd a thrychfilod Ynysoedd y De, Duchamp a
Picasso, celfyddyd y gwallgof a gweithiau gan gyfeillion oedd
yn ymgyrraedd at y cyflwr hwnnw.
Pan orfodwyd Breton i alltudiaeth yn ystod yr ail ryfel byd,
daeth ar draws arlunwyr y Byd Newydd - Matta, Arshile Gorky
a Wifredo Lam, ymwelodd â Haiti a, gyda Claude Levi
Strauss, bu'n chwilota mewn siopau hen bethau yn Efrog Newydd
am arteffactau Zwnïaidd a doliau Hopi Kachina. Nid rhyw
drachwant cyffredin oedd yn gorfodi Breton i gasglu. Mewn
diwylliannau sy'n cydnabod einioes annibynnol delweddau, mae
casglwyr mewn perygl o gael eu meddiannu gan yr union wrthrychau
eu hunain. Meithrinodd Breton y perygl hwn. Byddai'n hongian
paentiadau wrth droed ei wely er mwyn cael cipolwg arnynt
wrth ddeffro, yng ngoleuni'r anymwybod. Yn ei eiriau ei hun
dywed iddo gasglu gweithiau celf, gan obeithio meddiannu i
mi fy hun, y pwerau arbennig oedd, i'm llygaid i, yn llochesu
ynddynt.
Cyhoeddodd y Swrrealwyr "Fap o'r byd yng nghyfnod y
Swrrealwyr", map oedd yn mawrhau gwledydd yr addewid
megis Mecsico a Haiti, tra'n dileu U.D.A. a'r rhan fwyaf o
Ewrop. Trefnodd Breton arddangosfeydd oedd yn fwriadol yn
cymysgu gwrthrychau o ddiwylliannau gwahanol, celfyddyd frodorol
Americanaidd ochr yn ochr â phaentiadau gan fodernwyr
Ffrainc, a gwrthrychau o Ynysoedd y Môr Tawel wedi eu
cymysgu â gweithiau gan Man Ray. Gweledigaeth ac eiddo
un dyn, gan gynnwys cydweithrediad gyda chymeriadau yn amrywio
o Dali i Trotsky.
O ganlyniad, fel pobl sy'n perthyn i oes gwybodaeth dorfol,
rydym i gyd yn gasglwyr, hyd yn oed os yn ddiarwybod felly
- yn gasglwyr gwaith celf o'r gorffennol a'r presennol, ac
nid yn unig yn gasglwyr celf ond hefyd yn gasglwyr syniadau
a phrofiadau sydd yn dylanwadu arnom neu'n taro tant o'n mewn.
Mae'r 'Amgueddfa heb Furiau' hon yn gwirioneddol gynnwys Cyfoeth
y Byd mewn ffordd na allai amgueddfa real o frics a morter
fyth ei wneud. Beth sy'n gynwysedig ynddyn nhw yw amlygiadau
materol o gasgliad yr artistiaid o ddylanwadau a syniadau.
Awgryma Malraux nad ydym ni ( fel artistiaid) yn meddiannu'r
casgliad, ond mai'r casgliad sydd yn hytrach yn ein meddiannu
ni.
Yn ei hanfod, lle yn y meddwl yw Amgueddfa heb Furiau. Nid
ni sy'n byw yn y lle; mae'r lle yn byw ynom ni.3
Daw hyn yn amlwg yn y modd y mae syniadau a dylanwadau yn
ymddangos mewn gwaith artist; anaml y bydd yn cael ei wneud
yn uniongyrchol neu'n ymwybodol. Hwyrach y deuwn yn ymwybodol
o'r gyfeiriadaeth rywdro ar ôl gwneud y gwaith, yn hytrach
na chyn ei wneud neu wrth ei wneud.
Ymhle, pa bryd a sut y dechreuwn gasglu? I bob un ohonom,
mae'n dibynnu ar y sefyllfa y cawn ein hunain ynddi a hefyd
ar sut berson ydym ni, ar y cefndir y daethom ohono ac ar
y dylanwadau a'r profiadau sy'n parhau i'n mowldio a'n newid.
Fel y byddai'r damcaniaethwr o Gymro, Raymond Williams yn
ei ddweud :
Credaf fod pob artist sy'n myfyrio ar ei brofiad a'i ddatblygiad
yn dod yn waelodol ymwybodol o'r graddau y bu i'r ffactorau
hyn o ffurfiant a chyfliniad, yn ei hanes penodol ef ei hun,
fod yn dyngedfennol yn y syniad o'r hyn ydyw ac o'r hyn y
mae felly, yn rhydd i'w wneud. 4
Y dylanwadau ffurfiannol hyn, a'r syniadau sy'n deillio ohonynt,
yw'r deunydd crai y mae'r artist yn ei gasglu ac ohonynt bydd
yn llunio pethau newydd; dyma'r cynnyrch terfynol wedi iddo
gael ei nithio o'r pethau gasglwyd yn amgueddfa'r meddwl.
Rwy'n byw yn Grangetown lle mae'r Afon Taf yn llifo heibio
ar ei thaith olaf i'r môr; rwy'n gallu gweld Stadiwm
Rygbi'r Mileniwm a daw taith gerdded deg munud â mi
at safle adeilad newydd y Cynulliad. Rwy'n dair a deugain
oed a threuliais hanner fy hoedl yng Nghaerdydd. Yn y siop
ar y gornel, Urdu yw iaith yr hogiau ifanc. Mae'r plant sy'n
chwarae yn y stryd yn gwisgo saris, ond gorllewinol yw'r gemau
a chwaraeant. Ganwyd fy ngwraig yng Nghaerdydd ond daw ei
theulu o Wlad Groeg. Mae ein plant yn siarad Cymraeg. Yng
ngeiriau John Cowper Powys, Cymro styfnig (obstinate Cymric)
o'r gogledd ydw i, yn byw mor bell i'r de ag y mae modd gwneud
yng Nghymru, lleiafrif ymhlith lleiafrifoedd a phob un ohonom
yn rhan hanfodol o Gymru heddiw.
Fel Mr Khan sy'n byw ddau ddrws i ffwrdd, rwy'n adnabod y
bobl ddaeth o'm blaen. Ar y Sul, bydd fy rhieni, gant a hanner
o filltiroedd i'r Gogledd, newydd ddod adref o'r capel, rhywbeth
y bu'r ddau yn ei wneud ers dros saith deg o flynyddoedd.
Byddant yn eistedd i wylio rhaglen Gymraeg ar S4C; rhoddant
ganiad i holi am y plant; ânt i dy fy chwaer yn yr un
stryd. Maent yn byw eu bywyd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg
ac yn troi yng nghanol diwylliant Cymraeg arbennig, ac felly
y bu am genedlaethau. Materion pentref, materion capel, materion
teulu, perthynas pobl â'i gilydd; bodolaeth sydd bron
â bod yn llwythol, ond sydd yn newid yn gyfangwbl yn
fy nghenhedlaeth i, a'r newid hwnnw yn anochel a di-droi'n-ôl.
Tanseilir yr hunaniaeth "graidd" hon gan ddiwylliant
mwy byd-eang. Nid ymddangosai'n angenrheidiol i 'nhad ddiffinio
ei hunaniaeth; rydw i fel petawn i'n gwneud hynny yn gyson.
Wrth fynd yn hyn, mwyaf yn y byd y bydd y dylanwadau ffurfiannol
hyn yn tresmasu ar fy nychymyg. Hwyrach bod fy ymwybyddiaeth
o fod yn 'pasio pethau 'mlaen' yn cael ei ddeffro, o fod â
thri o blant fy hun.
Gadewais fy nghartref yn Y Bala am y tro cyntaf i fynd i'r
Brifysgol yn Aberystwyth i astudio yn y Gyfadran Economeg
(rhywbeth yr oeddwn i'n gwbl anaddas i'w wneud) ac Astudiaethau
Cymdeithasol, cyn dilyn llwybr amgenach, flwyddyn yn ddiweddarach,
mewn celf, gan ddilyn cwrs Sylfaenol yng Nghaer. Yn Aberystwyth
roeddwn yn byw mewn neuadd breswyl gwbl Gymraeg ei hiaith
a hynod wleidyddol - berw o weithgaredd gwleidyddol a diwylliannol
a man lle'r oedd y Gymraeg a'i diwylliant yn ganolog i bopeth.
Roedd dod i goleg celf yng Nghaerdydd yn wrthgyferbyniad llwyr.
Prin bod siaradwr Cymraeg arall yn y coleg, gyda'r tiwtoriaid
yn llawn amheuon neu heb sylweddoli fod yna ddiwylliant ar
wahân yng Nghymru, ac yn fwy na hynny, roedd colegau
celf y cyfnod hwnnw (1973) wedi eu drysu gan ofalon moderniaeth
ddiweddar, ac yn arbennig felly "ryng-genedlaetholdeb"
oedd wedi ei ysbrydoli yn America. Nid oedd diddori neu ymwneud
â nodweddion diwylliant bychan yn cael ei ystyried yn
weithgaredd o unrhyw bwys. Gadewais y cwrs ar ôl yr
ail flwyddyn.
I mi, dechreuodd y casgliad o ddylanwadau gyda detholiad
eclectig o artistiaid enwog o'r canon Gorllewinol, yn ogystal
â llond dwrn o artistiaid Cymreig neu unrhyw artistiaid
yn wir oedd â chysylltiad o unrhyw fath â Chymru:
Augustus John, yn gymaint am ei gysylltiadau a'r Bala lle
roeddwn i'n byw, ag am ei fohemiaeth ramantus; yn gymaint
am ei hunan-ddinistrio hynod ag am ei ddawn dylunio; Gaudier-Brzeska,
modernydd o bwys a laddwyd yn y ffosydd ac a fu am gyfnod
byr yn byw yn Ffordd Claude, Caerdydd, stryd y bûm innau'n
byw ynddi fel myfyriwr; Chagall, Roualt a Dubuffet ac yn ddiweddarach
Miro a Tapies o Gatalonia; ffigyrau diweddar Philip Guston
oedd wedi eu hysbrydoli gan gartwnau. "Mae lluniau yn
dweud storïau," meddai "a dyna sy'n gwneud
i mi fod eisiau paentio. I weld mewn llun, rywbeth y mae rhywun
wedi methu ei weld ar hyd yr amser, hyd at nawr a hynny am
y tro cyntaf". Guston roes un o'r cynigion gorau ar ddiffinio
natur celfyddyd pan ddywedodd, "Credaf mai'r awydd grymusaf
i baentiwr, person sy'n creu delweddau, yw gweld y ddelwedd
ei hun. I weld yr hyn y mae'r ymennydd yn gallu ei feddwl
a'i ddychmygu, i'w ddarganfod drosto'i hun a thrwyddo'i hun,
mor ddiriaethol ag sydd modd. Credaf mai dyna yw'r dyhead
mwyaf grymus ac, ar yr un pryd, y dyhead mwyaf hynafol sydd
wedi goroesi 25,000 o flynyddoedd." 5 Mae geiriau fel
yna yn ysbrydoliaeth i rywun, yn fwyaf arbennig oherwydd yr
adnabyddiaeth, "ie", fe deimlwch, "mae hynna
yn iawn, dyna'r union beth." Yn raddol dechreuais fwynhau
gweithiau Joseph Beuys, ac yn anocheladwy bob tro, yn gyson
onid yn ymwybodol, Picasso.
Fel myfyriwr cerfluniaeth yng Nghaerdydd yn y 1970'au roedd
gen i ddiddordeb yng ngwaith cerflunwyr minimalist fel Carl
Andre a Richard Nonas a'r enwog Brancusi, rhagflaenydd dylanwadol
i'r ddau. Llawer blwyddyn yn ddiweddarach, syndod i mi oedd
cyfarfod Nonas yng Nghaerdydd, mewn digwyddiad yn rhaglen
Lle-olion 94, wedi ei noddi gan Brosiect yr Artistiaid. Buom
yn sgwrsio llawer am hanes a mytholeg Cymru, yn arbennig stori
Madog yn cysylltu Cymru ar U.D.A., ac o ganlyniad i'r sgyrsiau
hyn dewisodd alw ei waith, (cyfres o foncyffion mawr wedi
eu gosod mewn rhes), yn Mandan, enw'r Indiaid "honedig
Gymraeg eu hiaith" o'r stori.
Daw atgofion yn ôl; gweld Llidiardau'r Nefoedd, Rodin
ym Mharis a phaentiadau Munch ar drip ysgol i Lundain. Daeth
dylanwadau eraill o weithiau arlunwyr naïf neu arlunwyr
gwerinol y deuthum ar eu traws am y tro cyntaf, mewn orielau
celf pan oeddwn ar daith i Orllewin Canol U.D.A. ym 1980,
i ymweld â'r teulu yn Iowa a Wyoming. (Roeddynt wedi
ymfudo yno ym 1911, alltudion Cymreig oedd â chysylltiadau
agos â'r "hen wlad" drwy'r teulu). Datblygodd
hyn yn ddiddordeb ehangach yn y "greddfol" a'r "naturiol",
yng nghelf "y cyrion" ac mewn celf gan blant. Nid
rhywbeth ffurfiol oedd fy ngwerthfawrogiad o waith yr holl
artistiaid hyn, ond yn hytrach rywbeth greddfol. Taniodd y
gweithiau hyn ynof ryw ddyhead ysol; roeddwn i'n newynu am
fod yn gyfranogwr yn hytrach nag yn edrychwr.
Daeth y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gesglais am yr artistiaid
hyn o astudiaeth bersonol ac yn bennaf o lyfrau. Fel llawer
o artistiaid, deuthum yn berson hunan ddysgedig. Ychydig iawn
a ddysgid am gelfyddyd neu artistiaid Cymreig yn yr ysgol,
a llai fyth yn y coleg celf. Y gred oedd fod unrhyw artist
o Gymru feddai ar hunan-barch wedi ei heglu hi am Lundain
ers tro byd, ac wedi datblygu rywsut i fod yn Sais. Rhaid
casglu artistiaid - ac nid celf yn unig - i mewn i ymwybyddiaeth
cenedl. Hwyrach y byddem wedyn yn gallu gweld, nid y tirlun
llwm yr oeddwn wedi ei ddychmygu, ond yn hytrach realiti gwlad
lle 'roedd, a lle bu, artistiaid lawer yn gweithio'n gyson.
Roedd y gwendid i'w weld yn y diffyg ysgrifennu am gelf yng
Nghymru, yn gymaint ag yn y difrïo trefedigaethol ar
dalentau brodorol; golygodd hyn na "chasglwyd" celf
ac artistiaid i'r trafodaethau diwylliannol yng Nghymru; ni
ddaethant yn rhan o'r "Pethe", y pethau oedd o bwys.
Fel y dywed Peter Lord, sydd â'i lyfr The Aesthetics
of Relevance, yn un o'r llyfrau cyntaf i roi sylw i'r mater
hwn, mor ddiweddar â 1992:
Absence of proof is no proof of absence.
Roedd cyfleoedd i edrych ar gelf hefyd yn brin, er bod fy
rhieni yn gyson gefnogol i dripiau addysgol i eglwysi cadeiriol
neu gastelli enwog ac o bryd i'w gilydd i'r Walker Art Gallery
yn Lerpwl. Mae gen i gof ymweld ag Eglwys Gadeiriol Coventry
efo mam, ar drip bws Sefydliad y Merched, a rhyfeddu at Grist
Mewn Gogoniant, Sutherland a Mihangel Sant a'r Diafol, Epstein.
Yn yr ysgol yn Y Bala roeddem yn ffodus fod gennym athro celf
ysbrydoledig yn Glyn Baines, ond roeddem yn ddiffygiol mewn
ymwybyddiaeth o hanes ein celf ein hunain (petai pethau wedi
bod yn wahanol byddai Ceri Richard wedi gallu bod yn ddylanwad
ffurfiannol pwysicach, fel y dylasai fod). Ond dyna fo, yn
fy ugeiniau cynnar, darganfûm waith David Jones drwy
ei ysgrifennu ef ei hun, In Parenthesis a The Anathemata,
ac wedi hynny trwy gysylltiadau â Chapel y Ffin lle
bu'n byw ac yn gweithio gyda Eric Gill. Cawn fy nenu at David
Jones oherwydd bod ei ddychymyg wedi ei anelu at y pethau
hynny a'm diddorai innau - Cymru, Mater Prydain, mytholeg
a'r haenau o ystyr, cof a lledrith ym meddwl yr artist ac
allan yna yn rhywle, yn ein cydio wrth wreiddiau anymwybod
cyffredinol yn ein tirlun. Roedd wedi ymdrwytho yn nhreftadaeth
ddiwylliannol Prydain Frythonaidd-Geltaidd, cyfnod hanesyddol
a rhannol fytholegol sy'n greiddiol berthnasol i hanes a mytholeg
Cymru, ac i'n perthynas â gweddill Ynysoedd Prydain
hyd y dydd heddiw. Celfyddyd syniadau oedd hyn, yn deillio
o'i gasgliad ei hun o gysyniadau hanesyddol a ddarllenasai
neu a ddychmygasai, ac nid dim ond celfyddyd gynrychioliadol.
Megis David Jones, darganfyddais innau ddeunydd crai yn Y
Mabinogi a lluniais fy nghasgliad fy hunan o'i ffantasia doreithiog.
O ddiwedd y saithdegau ymlaen, gweithiais ar baentiadau a
lluniau oedd yn ceisio rhoi cylchrediad cyfoes i fythau a
chwedlau oes a fu - Lleu, Blodeuwedd a Bendigeidfran. Seiliwyd
cyfres o baentiadau yng nghanol yr wythdegau, dan y teitl
Llongau Madog, ar chwedl y tywysog Madog o Wynedd yn glanio
yn America yn y ddeuddegfed ganrif .6 Eu bwriad oedd cynnig
sylw ar ddiboblogi gwledig, o ymadael neu o gael eich gwthio
oddi ar y tir - machlud ffordd o fyw mewn ymchwil am y "newydd".
Mae darlun mawr - Cwch Ymadael - o'r gyfres hon yn awr yng
nghasgliad Y Tabernacl, Amgueddfa Celfyddyd Fodern Cymru,
Machynlleth.
Credaf i mi ddysgu mwy yn ymarferol oddi wrth fy nghydoeswyr
yn y coleg nag o'r cwrs ei hun, ac wedi hynny trwy gyfarfod
â phaentwyr oedd wedi hen ymsefydlu, ac arddangos fy
ngwaith ochr yn ochr â nhw - paentwyr megis Tony Goble
a rannai fy niddordeb mewn elfennau "ffantasi" sy'n
ysbrydoli'r dydd i ddydd
ac mewn bod yn Gymro. Dysgais
lawer hefyd o ddod i adnabod ysgrifenwyr a beirdd fel Twm
Miall, Iwan Llwyd ac, yn ddiweddarach Ed Thomas, y bûm
yn cydweithio ag ef ar Flowers of the Dead Red Sea ym 1991
a Hiraeth ym 1993.
Ym 1985 cefais wahoddiad i ymuno â Grp Beca, a sefydlwyd
ddeng mlynedd cyn hynny gan Paul a Peter Davies, (gydag Ivor
Davies a Dennis Bowen yn ymuno â nhw yn ddiweddarach).
Bwriad sefydlu Grp Beca oedd gwneud celf roddai fynegiant
i'r ymwybyddiaeth Gymreig oedd wedi ei pholiticeiddio - ymwybyddiaeth
y deuthum yn gyfarwydd â hi yn Aberystwyth, ac yn Y
Bala cyn hynny. Daeth yr enw Beca o wrthryfel Rebecca ym 1843,
sef ymateb ffyrnig i gasglu tollau ar briffyrdd Cymru ac i
anghyfiawnderau cyffredinol cyfundrefn drefedigaethol. Gyda
llaw, arferai'r dynion wisgo dillad merched a byddai eu hwynebau
wedi'u duo, ac fe'i gelwid yn "merched Becca". Ond
rhaid edrych i ddigwyddiad mwy diweddar yn hanes trefedigaethu
i ddarganfod yr hyn daniodd y politiceiddio yn y 60'au a'r
70'au, digwyddiad a gafodd ei ddarlunio yng ngwaith celf aelodau
Grp Beca, yn benodol mewn paentiad gan Ivor Davies ym 1993
ac mewn gwaith safle gan Tim Davies ym 1997.
Y digwyddiad, ym 1963, oedd boddi pentref a dyffryn Capel
Celyn ger Y Bala gan Gorfforaeth Lerpwl, gweithred o orfodaeth
drefedigaethol oedd yn anwybyddu dymuniadau poblogaeth Cymru,
er mwyn darparu dwr ar gyfer y glymdref dros y ffin. Cafodd
y pentref a'r ffermydd cyfagos eu gwacáu a chronnwyd
dr Tryweryn. Ac er nad oedd hwn ond un o nifer o gronfeydd
dwr a adeiladwyd yng Nghymru ers cyfnod Fictoria, rhoes fod
i ddicter a phrotestiadau ffurfiol a ddatblygodd, ar y naill
law yn fudiadau heddychlon megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
ac, ar y llaw arall yn wrthsafiad allasai fod yn dreisgar,
gan Fyddin Rhyddid Cymru ac M.A.C., ac yn ddiweddarach a arweiniodd
at losgi tai haf Saeson gan Feibion Glyndr. Ym 1969, blwyddyn
arwisgo Charles yn Dywysog Cymru, cyhuddwyd John Jenkins,
cyn swyddog yn y fyddin Brydeinig, o nifer o droseddau yn
ymwneud â ffrwydron ac fe'i dedfrydwyd i ddeng mlynedd
o garchar, lle cafodd ei fygwth yn gyson. Roedd boddi Tryweryn,
er mai cof plentyn sydd gen i o'r amgylchiad, yn ing ychwanegol
i mi fel plentyn o'r ardal, gan fod ffrindiau ysgol i mi yn
anffodusion uniongyrchol i'r chwyldro a achoswyd. Mae'n debyg
hefyd fod y "boddi" hwn yn ddigwyddiad cyfoes sy'n
taro tant yng nghof y genedl. Mae iddo atsain i unrhyw un
sydd wedi darllen barddoniaeth gynnar Gymraeg a'r mythau sy'n
rhoi perthnasedd mawr i lynnoedd lledrithiol o'r byd arall
oedd yn cuddio dan wyneb y dr, ac i foddi tir, megis yn Cantre'r
Gwaelod ac yn stori Llyn Tegid, Y Bala - y llyn arall lle
treuliais fy mhlentyndod.
Profodd Grp Beca y gallem ni fel artistiaid roi sylw cyfreithlon
yn ein gwaith i faterion ein Cymreictod. Profodd hefyd fod
amgylchiadau cymdeithasol yn cynhyrchu artistiaid oedd yn
meddu ar y dychymyg a'r ymwybyddiaeth gymdeithasol angenrheidiol
i roi sylw i faterion yn ymwneud â hunaniaeth a'i natur
ddyrys, ac i herio ffactorau dryslyd a gelyniaethys eu hoes.
Roedd meddylfryd yr artistiaid dan sylw yn un o dorri tir
newydd a gwneud hynny'n ffurfiol. Gan weithio'n gydweithredol,
gweithio â rwbel, mwd a sbwriel ar ei Fap o Gymru, ysgrifennu
a darlithio, roedd Paul Davies yn rym ysbrydoledig mewn celfyddyd
gyfoes Gymreig, cyn ei farw annhymig ym 1993, yn 46 mlwydd
oed. Credai y gallai celfyddyd newid pethau. Gadawodd ar ôl
gasgliad gwerthfawr o syniadau ar gyfer y rhai fyddai'n ei
ddilyn , a chorff o waith a ddylai ryw ddydd fod yn graidd
i gasgliad o gelfyddyd frodorol mewn Amgueddfa Celfyddyd Fodern
Cymru (dan nawdd y wladwriaeth).
Roedd i Ivor Davies ran sylweddol yn y mudiad Dinistr Celfyddyd
yn y 1960'au yn Llundain a Chaeredin, yn trefnu perfformiadau
oedd yn cynnwys ffrwydriadau dan reolaeth, cydosodiadau hunan
ddinistriol, a pherfformiadau llwyfan. Treiddiodd y dylanwadau
hyn i ddulliau gweithio Beca, ac i mi, roeddynt yn gyswllt
uniongyrchol â delfrydiaeth a deinameg byd celfyddyd
y 1960'au. Dichon fod Ivor Davies erbyn hyn yn fodlon ar baent
(a phriddliw coch o Fynydd Epynt) ar gynfas fel cyfrwng, ond
mae'n dal i ddinistrio, i ddileu â'r dril a'r sandiwr
disg ac i rwbio allan, fel rhan o'r broses o greu delweddau.
Celfyddyd fel mynegiant cenedl
Profodd ymweliad â Gwlad y Basg ym 1989 yn agoriad
llygad i mi; yno gwelais waith Augustin Ibarrola, enw anghyfarwydd
i mi, ond un oedd yn fawr ei barch fel 'henadur' o artist
yn Euskadi, ac artist oedd yn meddu ar statws sefydliad cenedlaethol,
gyda'i waith ynghlwm yn ddiwrthdro wrth ymwybyddiaeth genedlaethol.
Mewn mannau cyhoeddus fe welwch y cerfluniau paentiedig, wedi
eu gwneud o ddur wedi ei weldio, a thrawstiau rheilffordd;
yn yr orielau cewch y gosodweithiau paentiedig gafaelgar sy'n
dwyn i gof gydsafiad gweithwyr ac annibyniaeth ysbryd y Basgiaid,
a'r cyfan yn llawn dilysrwydd. Yn y goedwig binwydd ger ei
stiwdio ar gyrion Guernica mae presenoldeb rhithiol ei amlinellau
paentiedig cyntefig o ddynion yn ymdeithio ac o lygaid totemaidd
gwyliadwrus. Mae'r ysgolion coesfain a wnaed o ganghennau'r
pinwydd hirsyth wedi eu gadael i bwyso yn erbyn y coed, yn
yr union fan lle'i defnyddid gan yr artist, gan ddynodi'n
baradocsaidd, ei bresenoldeb a'i absenoldeb. Tra cerddem y
llwybrau drwy'r fforest enfawr, gan weiddi trwy gwpan ein
dwylo, "Ibarrola", "Ibarrola" (dywedasai
ei wraig wrthym ei fod yn gweithio yno), diflannodd o'r golwg.
Roedd hyn i gyd yn f'atgoffa i o hynafiaid tybiedig fy mhobl
fy hun, fel Iberiaid cyn-Geltaidd, a ddiflannodd i'r mynyddoedd
a'r coedwigoedd, i ail-ymddangos dro ar ôl tro drwy
hanes, gan osgoi ton ar ôl ton o goncwerwyr, o'r Celtiaid
penfelyn, i'r Rhufeiniaid, y Llychlynwyr, y Sacsoniaid a'r
Normaniaid. Ai dyna paham yr ymddengys bod cydnawsedd rhyngom
â'r Basgiaid ang-Ngheltaidd, pobl sydd â'u hiaith
a'u tarddiad yn ddirgelwch? Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach
dysgais oddi wrth y beirniad Americanaidd Robert C. Morgan
fod coed paentiedig yn ffenomenon gyffredin ble bynnag y byddai
Basgiaid wedi sefydlu yn America. Ymddangosai gwaith Ibarrola
megis mynegiant cenedlaethol, ochr yn ochr â'r gelfyddyd
wleidyddol, guddiedig, ddychanol a dyfeisgar oedd yn llenwi
muriau Pamplona a Bilbao. Roedd gweld y gwaith fel dod i adnabod
y bobl, a chael y teimlad fod y gelfyddyd hon yn adlewyrchiad
cywir o fynegiant y genedl hon, a'i bod yn gysylltiedig â'i
chymuned. Ar unwaith, cesglais y syniad yma ar gyfer fy 'Amgueddfa
heb Furiau' fy hun.
Mae'r silffoedd llyfrau yn fy nghartref yn llawn o gatalogau,
cylchgronau a llyfrau sy'n delio â'r materion hyn yng
nghelfyddyd gwledydd eraill, os nad yn fy ngwlad fy hun. Mae'r
dyfyniad canlynol, ddewiswyd ar ddamwain, wedi ei godi o gatalog
o Gelfyddyd Croataidd Newydd sy'n teithio De America. Dyma
ddywed Yr Athro Mimi Marinovic o Brifysgol Chile :
Diwylliant sy'n gwneud cenedl. Mae'r celfyddydau yn rhan
o resymeg unigol symbolaidd a mynegiannol sydd yn cysylltu
yn y modd agosaf posibl â hunaniaeth cenedl
Mae
ymwybyddiaeth feirniadol, hunan-feirniadol artist sy'n werth
ei enw yn cyfrannu tuag at roi siâp i'r hunaniaeth honno.
Gall wrthsefyll her modelau estron a byd-eang o rethreg, sydd
mor nodweddiadol o'n hamser ni gyda'i gynnydd cyson mewn cyfathrebu
dwyochrog. Mae celfyddyd yn greadigol newid y modelau hyn
neu, mewn cysylltiad â nhw, yn rhoi golwg newydd ar
draddodiad, ac felly yn eu cyfoethogi.7
Celfyddyd a'r ysbryd
Ym 1990, treuliais bedwar mis fel Artist Preswyl yn Oriel
Genedlaethol Zimbabwe. Yn ystod fy arhosiad yn y wlad honno,
profais rywbeth na allwn ond ei ddisgrifio fel elfennau ysbrydol
creadigedd, wrth syllu ar adfeilion waliau sychion Zimbabwe
Fawr a gweld paentiadau prysgoedwyr San ar greigiau'r dirwedd
cras, rhai'n dyddio'n ôl ddwy fil o flynyddoedd, a phob
un wedi ei wneud â chyffyrddiad deheuig mewn lliwiau
brau, ond maent yno o hyd. Yng ngoreuon y cerfluniau cerrig
cyfoes roedd yna bresenoldeb ysbrydol oedd wedi hen ymadael
â cherflunwaith Gorllewinol - gwaith Bernard Matamera
( y cefais lawer pryd bwyd a sgwrs yn ei gwmni pan oeddwn
i'n byw ac yn gweithio ym mhentref cerfluniau Tengenege, yn
y diffeithwch i'r gogledd o Harare); gwaith Nicholas Mukomberanwa,
y brodyr Takawira a Tapfuma Gutsa yr ieuengaf. Am y tro cyntaf
erioed dechreuais werthfawrogi'r gravitas, y presenoldeb hwnnw
sy'n gynhenid i weithiau mawr celfyddyd, rhywbeth oedd yno,
megis grym natur. O'i roi yn ffurfiol, mae i'r cerflunwaith
hwn iaith sy'n gyffredin i weithiau Brancusi, Epstein a Moore;
serch hynny, mae wedi ei wreiddio yn ymwybyddiaeth y Shona,
mewn crefydd, myth a diwylliant.
Hiraeth
Am ddwy flynedd ar ôl Affrica, roedd fy ngwaith yn
ymwneud â theimlad o ddadleoli ddaeth i'm rhan wedi
i mi ddychwelyd o Zimbabwe i Gaerdydd. Teimlwn fel petawn
yn byw mewn rhyw limbo, rhwng dau fyd. Yn eironig iawn roeddwn
i wedi teimlo'n gartrefol yn Zimbabwe, ond nid yn gartrefol
ar ôl dychwelyd; roeddwn i'n anniddig ac anfodlon. Cwblheais
gyfres o ddelweddau a oedd mewn gwirionedd, yn balimpsestau
bwriadol - sawl haen o arlunio, o baentio a gludwaith aml-gyfrwng,
wedi ei arosod â haen derfynol o arlunio â phaent
olew ar y tu mewn i ddarn o wydr, a hwnnw'n cael ei roi fel
wyneb i'r gwaith, gyda bwlch yn eu gwahanu. Roedd yr ymdeimlad
o limbo grëwyd gan ddau fyd anorffenedig o brofiad i'w
weld yno yn y bwlch rhwng y darluniau. Arddangoswyd y gwaith
hwn fel Hiraeth yn Oriel, Caerdydd ac wedi hynny ar daith
ym 1993/94. Yn ei draethawd yn y catalog, dywed Fintan O'Toole
am y gwaith :
mae'r peintiadau yn ddelweddau o broses ddiwylliannol
sydd yn hanfodol i wledydd bychain, ansefydlog, y broses o
ail-ddyfeisio atgofion, o ddilysu'r ysgrifen ar y llawysgrif
drwy wybod bod rhywbeth y tu ôl iddo, hyd yn oed oni
fedrir adhawlio'r rhywbeth hwnnw byth.8
Yn ddiweddar, prynwyd un o'r peintiadau hynny, Dyrchefwch
eich Adfeilion, ar gyfer Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru
gan Gymynrodd Derek Williams; daw ei ddelweddaeth o dwr cerrig
canolog Zimbabwe Fawr, na wyddom ddim am ei bwrpas na'i hanes,
ond a ddaeth ym 1980, yn symbol i wladwriaeth newydd Zimbabwe.
Roedd yr arddangosfa Hiraeth hefyd yn rhan o'm cyflwyniad
terfynol ar gyfer Gradd Meistr, wnaed yn Howard Gardens, Caerdydd,
cyfiawnhad personol i mi ar ôl fy nghyswllt cyntaf anhapus
â'r coleg. Yn sgìl fy astudiaethau, dechreuais
fwynhau ysgrifennu a darllen ar amrediad llawer ehangach o
bynciau. Cesglais syniadau o ddifrif. Fodd bynnag, roedd fy
mhrif ymchwil o hyd yn ymwneud â cheisio cysylltu fy
niddordeb mewn hunaniaeth Gymreig ag ymwybyddiaeth, oedd yn
dyfnhau, o'r drafodaeth ôl-drefedigaethol a ymddangosai
yn gynyddol mewn ysgrifennu (yn cael ei symbylu gan artistiaid
yn Affrica ac America Ladin), a'r modd y mae ôl-foderniaeth
fel petai'n agor drysau i gelfyddyd oedd yn ymwneud â'r
pynciau hyn. Erbyn hyn nid ymddangosai'n angenrheidiol i ledaenu'r
"rhyng-genedlaetholdeb" yr oedd moderniaeth ddiweddar
am fynnu ei gael. Mewn gwirionedd roedd y "rhyng-genedlaetholdeb"
hwn yn ideoleg ddeallusol oedd wedi ei seilio ar olwg gul
iawn, ac Ewro-americanaidd, ar y byd. Ymgollais mewn byd o
theori ac ni ddaeth y cyfan yn eglur nes i mi, gyda'r ddau
bolymath diwylliannol Gymreig - Raymond Williams a Gwyn Alf
Williams (dau ddaeth yn feini prawf deallusol i mi) - osod
y theorïau ôl-fodernaidd mewn cyd-destun fyddai
o werth i artist yng Nghymru.
Prosiect Artistiaid
Tua'r un cyfnod fodd bynnag, roeddwn yn ymwneud fwyfwy ag
artistiaid a digwyddiadau rhyngwladol, gan weithio gyda'r
Prosiect Artistiaid yng Nghaerdydd. Gyda chymorth Sean O'Reilly
a Paul Beauchamp roeddwn wedi helpu i sefydlu'r prosiect hwn
oedd yn cael ei redeg gan artistiaid, a bu'n gyfrwng i ddod
â chysylltiad ag artistiaid a syniadau rhyngwladol yn
nes adref. Trwy gyswllt â'r Amgueddfa Artistiaid yn
Lodz, Gwlad Pwyl, cawsom ymuno â rhwydwaith o "swyddfeydd"
oedd dan reolaeth artistiaid, math ar "gymuned o artistiaid
answyddogol rhyngwladol". Dyma eu disgrifiad eu hunain
o'r sefydliad :
Nid amgueddfa o fewn muriau yw amgueddfa yr Artistiaid Rhyngwladol.
Mae'n sianel gyfathrebu byd-eang sy'n cysylltu artistiaid
a deallusion o amrywiaeth o feysydd trwy rwydwaith byd-eang
o ganolfannau celf annibynnol, canolfannau sydd dan reolaeth
lleol, sy'n rhyngweithiol ond sydd hefyd yn cael eu hariannu'n
annibynnol.
Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau gan y Prosiect Artistiaid
yng Nghaerdydd ac, yn benodol, Lle-olion ym 1994 a 1996; (roedd
y digwyddiadau'n cynnwys gwaith aml-gyfrwng ar gyfer safleoedd
neilltuol a wnaed tros gyfnod o saith i bedwar diwrnod ar
ddeg). Roedd y Prosiect yn gwahodd artistiaid o Gymru i gymryd
rhan mewn digwyddiadau tramor, yn Berlin, diffeithiwch Negev,
Gwlad Pwyl a Croatia, a thrwy hynny ehangu ein cymuned a'n
profiad personol fel artistiaid. Un digwyddiad sy'n aros yn
y cof yw gwylio'r artist Ryszard Wasko, sefydlydd Amgueddfa
Artistiaid, yn teipio llythyr ffurfiol yn ein croesawu i'w
frawdoliaeth - ar hen beiriant tolciog, sigâr yn ei
geg, gwydraid o vodka yn ei law, a hithau'n ddiwrnod oer a
diflas yn Lodz. Dysgais am ei Archif Myfyrdod Cyfoes, a ragflaenodd
ei Amgueddfa'r Artistiaid, archif a sefydlodd mewn 'stafell
gefn yn ei fflat - casgliad o ddogfennau, cynlluniau a syniadau
anfonwyd gan artistiaid o bob rhan o'r byd, ar gyfer gweithiau
celf i'w rhoddi'n anrheg i Wlad Pwyl yng nghyfnod Solidarity.
Roedd hon yn enghraifft o gasglu mewn dull gwahanol i ddulliau
arferol amgueddfeydd; yn wir mae'n cwestiynu swyddogaeth y
sefydliadau hynny, trwy greu casgliad sydd wedi ei seilio
ar syniadau artistiaid, i'w rhannu rhwng cymuned fyd-eang
sy'n gyfrannog o'r un gwerthoedd. Rhoddwyd cychwyn ar werthoedd
fel hyn gan artistiaid fel Kandinski, Alfred Kupka, Sol Le
Witt, John Cage, Alexander Calder, Joseph Beuys a mudiadau
megis Constructivism yn Nwyrain Ewrop a Fluxus yn U.D.A.
Dymuniad y Priosect Artistiaid, ac mae'n un uchelgeisiol,
yw gwneud Cymru yn ganolfan lle mae'r syniadau hyn am gelfyddyd
yn dod yn rhan o'r broses o hunan-ddiffinio, nid yn unig ar
gyfer ac yng Nghymru, ond fel model ar gyfer gweddill Ewrop,
h.y. yn hytrach na'n bod yn bell ar ôl, ein bod ymhell
ar y blaen. A thra bod gennym ni artistiaid y dychymyg i ddygymod
â'r cysyniad, yn anffodus nid yw'n debygol y bydd hyn
yn wir am y cyrff noddi. A fyddant yn barod i "brynu'r"
syniad; a fyddant am fod yn gasglwyr?
Gyda'r cyfle hwn, fe allwn fod wedi ystyried mabwysiadu ffordd
o fyw nomadig, fel yr artistiaid "rhyngwladol" hyn
a deithiai o ddigwyddiad i ddigwyddiad, ond, gan fy mod i
erbyn hyn yn r priod gyda theulu ifanc, roeddwn i wedi dod
yn fwy ymwybodol o'r "cartref"; roedd y cwlwm teuluol
yn gryfach gan fod gennyf gyfrifoldeb rhiant. Os bu "cartref"
erioed yn gysyniad haniaethol, erbyn hyn roedd yn gwbl real.
Mae'r sefyllfa fel petai'n fy ngorfodi i fyfyrio ar gysyniadau
cyfredol megis "lledaenu ar draws y byd" a "gwreiddiau"
- y byd a'r cartref, cysyniadau sy'n gyfochrog ac eto'n groes
i'w gilydd.
Arweiniodd ymchwil i'r anghysonderau ymddangosiadol hyn at
ddiddordeb cynyddol yng ngweithiau artistiaid o ddiwylliannau
eraill yn y gwledydd sy'n datblygu, artistiaid allai fod â
mwy yn gyffredin rhyngddynt â'm safbwynt personol i
yma yng Nghymru. Artistiaid yw'r rhain sydd, fel petai, yn
delio â phersnasedd y cysyniad o gartref ac o wreiddiau,
oddi mewn i'r byd ehangach. Roedd celfyddyd a dueddai i ymwrthod
â'r sgiliau a'r dechneg ffurfiol a ddysgid yn frwd unwaith
gan y gorllewin, yn apelio ataf; roedd hon yn gelfyddyd oedd
am durio'n fwy effeithiol i iaith yr anymwybod ac ar yr un
pryd am fynd i'r afael â materion hunaniaeth ôl-drefedigaethol
ac â'r gwleidyddol a'r hanesyddol-gymdeithasol.
Estheteg Santeria
Cawn fy nhynnu yn arbennig at waith Jose Bedia, artist o
Giwba. Mae ei arlunio a'i waith mewnosodiadol yn drawiadol,
ar unwaith yn cynnig golwg ar ddiwylliant o bersbectif gwahanol.
Mae'n ystyried Ciwba fel diwylliant syncretaidd, croesffordd
ddynol o gyfeiriadaeth ddiwylliannol. Ffigurau hyderus, sy'n
dwyn i gof dduwiau ac ysbrydoedd Affricanaidd, yn llamu dros
fynyddoedd ac yn croesi pontydd, yn llusgo cychod, trenau
a lorïau i fyd newydd Gogledd America. Mae'n ymchwilio
i'r syniad o draws-genedlaetholdeb, diwylliant nad yw wedi
ei ynysu neu ei foddi gan gyrchoedd o'r tu allan, ond sy'n
trawsnewid ei hun trwy feddiannu ac amsugno. Hyd yn oed mewn
atgynyrchiadau, mae rhyw rin yn diferu o'i waith safle a'i
gynfasau; bron fod yna arwyddocâd crefyddol yn ei symboliaeth.
Dim ond yn ddiweddar, ar ymweliad â Chiwba ym 1998,
y cefais well dealltwriaeth o'r pwnc hwn. Fel un o'r artistiaid
"answyddogol", cenhedlaeth a ddaeth yn amlwg yng
Nghiwba yn yr wythdegau, nid yw'n byw yno mwyach, ond darganfyddais
wreiddiau cryf ei waith ef, a gwaith artistiaid eraill, yn
y traddodiad Santeria Affro-Giwbaidd. (Yn ddiweddar daeth
un o'i gyfoeswyr, Raol Speek, i gysylltiad â mi; bu'n
byw yn Solfa, Sir Benfro am y tair blynedd diwethaf). Fel
dilynwr crefydd Palo Monte, mae gweithiau Bedia yn aml yn
ymgorffori elfennau sydd o arwyddocâd lledrithiol a
defodol. Artist arall yw Juan Fransisco Elso (1956-88); yn
ei gerf ddelw Por America (1986), mae ffigwr pren cerfiedig
o Jose Marti, arwr cenedlaethol Ciwba, gwr deallus ac awdur,
yn cael ei "danio" â gorchudd o fwd wedi ei
gymysgu â gwaed yr artist ei hun, a gwaed ei wraig,
yr artist Magali Lara o Fecsico. Mae darnau eraill yn cael
eu "tanio" ag elfennau sy'n rhoi pwer iddynt - carreg
o'r Andes, cragen dro o Affrica, pridd o nifer o leoedd, hadau.
Mae yn y gwaith hwn ddimensiwn sy'n ychwanegol at yr esthetig,
ffurfiol gweledol. Mae fel petai ystyr cudd yn ei yrru. O
astudio'r peth, daw'n amlwg fod yr artistiaid hyn (rhai ohonynt
wedi eu derbyn i Santeria, yn y naill neu'r llall o'i amryw
ffurfiau), yn defnyddio distyllion lledrithiol o lysiau a
gwreiddiau yn guddiedig yn eu gwaith. Mae Bedia yn gwahaniaethu
rhwng allor real a gwirioneddol a wnaethai ef ei hun yn ei
stiwdio, a'i sancteiddio'n ddefodol â gwaed cyw iâr,
a chopi "glân" ohoni a gomisiynwyd gan oriel
yng Ngogledd America.
Mae gwaith yr artistiaid hyn yn peidio â bod yn ddarluniau
o syniadau yn unig, ac yn tyfu i fod yn "allorau"
trawsffurfiol grymus. Un peth sy'n gyffredin i genhedlaeth
o artistiaid, cymharol ddigyswllt, o Ciwba yw'r ymchwil y
bu'n rhaid iddynt ei wneud, yn ymwybodol neu'n anymwybodol,
i ethnograffeg. I wahanol graddau, maent wedi dysgu am yr
ymarfer o Santeria, er bod llawer wedi eu geni iddo, ac am
symboliaeth a hanes y gorffennol Yoruba hwnnw a'r traddodiad
parhaus yn America Ladin. Dywed Bedia mai ei ddiddordeb ef
yn y grefydd oedd : Yn gyntaf fel cydnabyddiaeth o'm hunaniaeth
genedlaethol ac mewn ymchwil am wreiddiau cryfion ym mywyd
Ciwba fyddai'n esbonio pethau am Giwba. 9 Roedd ymchwil Bedia
yn ddarganfyddiad anthropolegol o genedl Ciwba, ei gymuned.
Cafodd astudiaeth Lydia Cabrera o ddiwylliant disgynyddion
Affricanaidd yng Nghiwba, a ddechreuwyd yn y 1930'au, ddylanwad
sylweddol. Roedd ymchwil Bedia hefyd yn cynnwys diwylliant
yr Amerindiaid brodorol, diwylliant y gellid dweud ei fod
wedi ei syncreteiddio yn symbolaidd ac yn faterol i'w waith,
fel ag y mae i Ciwba gyfoes. Arweiniodd y diddordeb hwn mewn
diwylliant brodorol i breswyliad gyda Sioux y Lakota ym 1985.
Mae yna stôr enfawr o wybodaeth a gasglwyd ganddo sy'n
ysbrydoli ei weithiau safleol a'i ddarluniau scematig a ffurfiol.
Daeth rhai artistiaid, megis Bedia, yn "gyflawn aelodau",
tra bod eraill wedi aros yn seciwlar er yn ymwybodol o'r lledrith
y gallent dynnu arno ar gyfer eu gwaith. Fel hyn y dywed Raquelin
Mendieta, wrth sôn yn rymus iawn am ei gwaith ei hun
:
Yr un peth yw ysbrydolrwydd a chelfyddyd.
Mae gweithiau celf yn weddïau ar allor bywyd.
Rhaid bod pob artist yn teimlo, ryw dro neu'i gilydd, nad
yw ei gelfyddyd fel petai'n dod yn uniongyrchol ohono ef ei
hun; caiff ei briodoli i "lwc" neu "ddamwain",
"ffawd" neu "ysbrydoliaeth". Mae gorfod
wynebu cynfas gwyn gwag neu floc o bren neu garreg, yn unig
a heb syniad yn y byd, yn brofiad brawychus. Cred cerflunwyr
yn Zimbabwe fod y ffurf derfynol eisoes oddi mewn i'r garreg;
eu swyddogaeth hwy yw gollwng yn rhydd y "Mashave",
yr enaid crwydrol hwn sydd wedi ei garcharu o'i mewn. Yn achos
yr artistiaid Ciwbaidd, ceir trefn arbennig i gydnabod yr
"orishas", y negeseuwyr sy'n cymuno â'r un
duw, Olodumare. Dyna pam yr oedd gan Bedia allor "go
iawn" yn ei stiwdio, i anrhydeddu "orisha"
arbennig, oedd yn gysylltiedig â chreadigedd. Mae bron
yn demtasiwn i mi awgrymu y dylai artistiaid Cymru ddechrau
cydnabod dylanwad ac ysbrydoliaeth Taliesin a Ceridwen fel
ysbryd i'w harwain, a chael allor i'r duwiau daionus hyn,
rywle mewn cornel o'u stiwdio.
Mae derbyn ysbrydoliaeth o symboleg diwylliannau eraill yn
sïwr o greu problemau. Cwyd Jose Bedia mewn statws a
gwerth fel artist rhyngwladol trwy iddo drin yn ddeheuig,
arwyddion darluniau llyfrau cyfrifon Lakota (Amerindiaidd),
palo monte Affro-Giwbaidd neu ddarluniau dot brodorol o Awstralia,
a gwneud hynny mewn dull na allai artist Lakota neu Affro-Giwbaidd
neu Awstralaidd ei wneud - o leiaf heb gael ei labelu yn "ethnig"
yn hytrach nag yn rhyngwladol.
Mae'n werth dwyn i gof farn yr artist a'r awdur Santo De
Monte (wrth adolygu gwaith Hans Rikken o'r Iseldiroedd) :
Hwyrach mai tafluniad anymwybodol o rywbeth cuddiedig neu
suddedig yn ein diwylliant ein hunain yw'r hyn sy'n ein cyfareddu
mewn diwylliant estron. Fe allem, er enghraifft, ailystyried
ymdriniaeth Picasso o estheteg Affricanaidd fel mynd allan
o'i ffordd ac "yn ôl" i orffennol Iberaidd
hynafol - wedi'r cwbl, fe fu yn dyst i ddarganfod cerfluniaeth
Iberaidd yn y 1900'au cynnar.
Nid yw'r teimladrwydd gogledd Ewropeaidd wedi gollwng gafael
yn llwyr ar ei ymlyniad at baganiaeth oedd a'i duwiau yn agos
iawn at fyd natur.
Os yw Rikken yn tynnu ar agweddau naturiol, elfennol diwylliant
Affro-Giwbaidd, dichon ei fod yn deillio o hiraeth - hiraeth
anymwybodol o bosib, am gyntefigiaeth Ewropeaidd neu orffennol
mytholegol. Mae'r dylanwad Ciwbaidd mud yn galluogi'r gogleddwr
i ail-ddarganfod neu ail-fynegi ei hunaniaeth ei hun.10
Rhaid i ni fod o hyd yn ymwybodol o faint y dylanwad sydd
arnom gan symbolegau eraill. I mi, roedd gwaith yr artistiaid
hyn yn fwy buddiol fel rhywbeth i ddilysu achos - yr "estheteg
gwarcheidiol" hwn a ganiatâi i mi ail-ddarganfod
eiconograffi gan ddefnyddio rhannau a thameidiau o draddodiadau,
trosiadau, ystrydebau, chwedlau a storïau o'm diwylliant
i fy hun.
Fel y rhan fwyaf o waith artistiaid, mae fy mhaentiadau,
cydosodiadau a'm mur ddarnau innau - yr amlygiadau hyn o syniadau
- yn ddatganiadau personol. Ac yn bwysicach na hynny, mae
a wnelont â chymuned y teimlaf fy mod yn perthyn iddi.
Ffurfir y gymuned hon gan yr hyn a eilw Raymond Williams yn
"lefelau o deimladau", gan ragdybiaethau cyffredin
a chronfa gyffredin o gof a diwylliant. Rwyf felly'n teimlo'r
cyswllt rhyngof â'r artistiaid hynny sy'n creu gwaith
mewn amgylchiadau tebyg, a chyda lefelau tebyg o deimladau,
mewn rhannau eraill o'r byd.
Beth sydd â wnelo treftadaeth â'm celfyddyd i?
Dyna gwestiwn rhethregol ofynnwyd gan yr artist o Indiad Gogledd-America,
Kay Walking Stick. Dyna sy'n fy ngwneud i pwy ydw i. Portread
o'r artist yw celfyddyd, o leiaf o brosesau meddwl yr artist,
o'i ymdeimlad o'i hunan ac o'i ymdeimlad o le yn y byd. Os
dyna yw celfyddyd i chi, yna mae fy hunaniaeth fel artist
o Indiad yn allweddol.
Mae fy nghymuned yn cwmpasu'r rhai sy'n rhannu teimlad o
bwrpas artistig. Y rhai hynny y mae eu celfyddyd yn fwy na
"chelfyddyd er mwyn celfyddyd", y rhai hynny sy'n
defnyddio celfyddyd fel iaith (a dyna ydyw), fel y dylid defnyddio
iaith, hynny ydyw, fel cyfrwng i ddweud pethau. Fel cyfrwng
i neges a chof. Celfyddyd felly, gyda chynnwys a pherthnasedd
i'r cymunedau y perthyn yr artistiaid iddynt, neu o leiaf
am y cymunedau hynny. Ond ni ddylai hyn gyfyngu'r gwaith i'w
gymuned ei hun; yn wahanol i'r iaith lafar, ni raid i gelfyddyd
weledol wrth ffiniau; dylai'r gwaith fod o fewn cyrraedd cynulleidfa
ehangach. Fel y dywed David Alston, cyn Geidwad Celf yn Amgueddfa
ac Orielau Cenedlaethol Cymru, yn ei draethawd yn y gyfrol
Certain Welsh Artists (1999) :
Ymddengys i mi y gall artist yn y Gymru gyfoes weithio yn
gynhenid ac yn rhyngwladol, o ran arddull a chynnwys. 11
Gwaith
Deuthum i sylweddoli mai'r hyn a fwynhawn fwyaf, a'r hyn
ddeuai hawsaf i mi, oedd nid "paentio" yng ngwir
ystyr y gair ond darlunio - gwneud marciau i gyflwyno neges
mewn dull sylfaenol ac uniongyrchol, er bod y neges ei hun
yn aros yn gymhleth. Uniongyrchedd wedi ei feithrin gan ddiffyg
amynedd, llinellau amneidiol gyda'r llofnod caligraffig yn
ddigymell ac eto dan reolaeth. Nid oedd ddiddordeb gennyf
mewn 'sgafnder a graddliw ac eiliw, nac mewn perthynas gyfyngedig
ffurfiol â deunydd a thechneg, yn sicr nid mewn unrhyw
effeithiau addurnol. Dechreuais weld llawer o'r hyn a elwir
yn gelfyddyd "o ddifrif" fel dim mwy nag addurn
ar yr wyneb, tra bod a wnelo llawer o'r hyn a ystyrir gan
y cyhoedd yn gelfyddyd, fwy â medrusrwydd wrth drin
paent, hynny ydyw, crefft yn fy nhyb i ac nid celfyddyd o
gwbl. Nid awgrymu yr wyf fod crefft yn rhywbeth israddol,
ond y mae yn rhywbeth gwahanol.
Mae yna dybiaeth o hyd fod darlunio (drawing) yn weithred
o baratoi - paratoi ar gyfer paentio. Ond gellir ystyried
darlunio fel gweithred derfynol ynddi'i hun. Byddaf yn ystyried
fy null i o weithio fel cymysgedd o ddarlunio a phaentio,
neu'n hytrach fy mod yn darlunio â phaent. Mae'r gwahaniaeth
rhwng darlunio a phaentio yn un symudol a goddrychol, ond
mae a wnelo gwaith rhai artistiaid â "phaent"
mewn ffordd gwbl benodol. I mi, fodd bynnag, mae'n fwy am
ddeunyddiau sy'n gwneud marciau yn effeithiol ac sy'n rhyw
lun ar resymegol yng nghyd-destun y gwaith. Mae golosg a phastel
yn hyfryd i'w defnyddio ar gynfas amrwd, mae emylsiwn yn gyflym,
yn sychu'n sydyn, yn wlyb. Mae i baentiadau olew eu bywyd
eu hun, rhoddant deimlad "gorffenedig" i waith;
maent fel petaent yn eich arwain fwy i mewn i'r gwaith. Teimlaf
fy mod yn gweithio mewn cydweithrediad â phaentiau olew,
yn hytrach na'm bod yn eu defnyddio. Byddaf yn defnyddio cymysgedd
o ddeunyddiau ar yr un pryd, yn aml iawn fel y maent wrth
law yn y stiwdio.
Byddaf yn dechrau fel arfer gyda golosg, sialc a phastel;
maent yn gyfryngau cyntefig, priddlyd i wneud marciau â
nhw. Yn baradocsaidd, gadawodd yr elfennau hyn, er mor ddarfodedig
ac ansefydlog ydynt, eu holion, am ugain canrif a mwy, ym
mhaentiadau'r San, ar y creigiau, yn Ne Affrica.
Fel einioes dyn ei hun, maent o hyd yn gadael staen, arlliw,
gwaddod ac atgof. Yn aml iawn mae'r paentiad ei hun yn dechrau
fel dull o ddileu; bydd rhai darnau o'r pastel neu'r golosg
sy'n gamgymeriadau yn cael eu dileu, megis â Tippex.
Bryd hynny bydd greddf yn arwain, a bydd camgymeriadau yn
troi'n ganllawiau i ddatblygu i gyfeiriad newydd. Yna ychwanegir
lliw er mwyn pwyslais, neu am resymau symbolaidd. Mae'r cynfas
fel petai weithiau'n erfyn am jochied o goch, a byddaf fel
arfer yn tynnu'r llinell ar draws y cynfas, gan ddefnyddio'r
tiwb paent fel pin ffelt, neu'n sblasio rhesen o emylsiwn
gwlyb ar draws y cynfas. Byddaf yn dal i ystyried hyn yn arlunio:
gwneud marc er mwyn cyfleu neges yn hytrach nag ymwneud â
gwahanol raddau lliw neu â pherthynas ffurfiol a thechnegol
â'r deunydd. Daw'r broses o wneud y gwaith yn ddefodol,
y deunydd yn trawsffurfio i fod yn iaith symbolau cynddelwaidd.
Mae yna bwynt pan fo paentiad, beth bynnag fo yn ei gyfleu,
un ai yn datblygu rhith, yn dwyll megis mewn trompe-l'oeil,
neu yn datblygu'n "baentiad", yn annibynnol ar ei
destun ac yn ei guddio. Rydw i am aros lle mae'r testun yn
dal i fodoli, yn annibynnol ar y gwrthrych paentiedig. Mae'n
debyg mai dyna pam y byddaf yn ystyried y gweithiau hyn fel
"darluniau" mewn paent. Mae'n amlwg nad disgrifiadau
realistig ydynt; parhânt yn farciau sy'n dweud wrthym
"dyma bont" neu "dyma gwch", ond ni fyddant
yn mynd y cam pellach lle mae'r darlun o gwch yn datblygu'n
wrthrych paentiedig, neu lle mae medrusrwydd deheuig yn ceisio'n
argyhoeddi mai cwch yn wir yw hwn, mewn gofod tri-dimensiwn
oddi mewn i'r ffrâm bictiwr. Yn y dull hwn rwy'n gobeithio
awgrymu mai nid y "peth" ei hun yw'r paentiad, ond
y syniad neu'r myfyrdod sy'n troi'n faterol. Crybwyllant rywbeth
allanol.
Gyda'r gyfres o ddarluniau pastel a golosg ar gynfas amrwd,
dan y teitl cyfansawdd Panorama (Min y Tir), 1995-96, roeddwn
i'n creu tirluniau dychmygol oedd eto yn debyg i leoedd go
iawn, ac roeddwn am iddynt weithio fel darnau unigol neu mewn
cyfres luosog, mewn bloc. Roeddwn i'n ailadrodd fy hun gan
ddefnyddio iaith symbolau oedd yn deillio o'm cefndir diwylliannol
i fy hun, neu yn arbennig o berthnasol i'r diwylliant hwnnw.
Arddangoswyd y gyfres darluniau fel nifer o 'weithiau safle',
y gellid hefyd eu datgymalu i'w gwahanol rannau, un ai i'w
gwerthu (ac fe ddigwyddodd hynny), neu i'w hailosod mewn trefn
wahanol. Felly tros gyfnod o amser, fe ddosbarthwyd y 'gweithiau
safle' ar hyd ac ar led, trwy Gymru a thu hwnt. Byddaf yn
dychmygu'r rhain fel dernynnau, fel "creiriau diwylliannol"
yn hytrach nag fel darluniau mewn ffrâm yn unig. Roedd
rhaid iddynt feddu ar rywbeth ychwanegol; roedd rhaid iddynt
fod o ddiwylliant yn gymaint ag am ddiwylliant, fel y gallent
gyfleu dyfnder hanesyddol ac, o bosib ddimensiwn ysbrydol
hyd yn oed.
I ni'r Cymry, dydy'r tirwedd ddim yn bodoli ar wahân
i'r hanes neu'r chwedl sydd yn gysylltiedig â hi. Yn
aml iawn mae enwau lleoedd yn cyfeirio at storïau o'r
Mabinogi, neu at ddigwyddiadau hanesyddol neu chwedlonol.
Bydd naratif yn rhoi bywyd i nodweddion y dirwedd. Mewn llenyddiaeth,
bydd digwyddiadau o bwys yn cael eu hailadrodd, a'u hadnabod,
dros ganrifoedd. Un o'r rhain, fel yr awgrymais yn gynharach,
yw'r ddelwedd o dir neu o ddinas yn cael ei boddi neu ei gorlifo
â llifogydd; digwyddiadau sy'n gysylltiedig yng nghof
pobl â mannau y gellir ymweld â nhw heddiw. Ymddengys
bod y trosiad hwn o dir wedi ei foddi, o glychau'r eglwys
wedi eu tewi gan donnau'r môr, yn arbennig o addas i
ddiwylliant fu yn gyson dan fygythiad cael ei foddi gan gyrchoedd
estron dros y mileniwm diwethaf. Mae yna enghreifftiau mewn
barddoniaeth gynnar Gymraeg o ddymuniad i weld tir Cymru yn
cael ei lyncu gan y môr yn hytrach na gorfod dioddef
gwarth bod dan reolaeth y Sais. Ac nid yw'n ddewis mor wael
â hynny, os cofiwn fod y baradwys Geltaidd, tir y bythol
ifanc, nid yn yr awyr uwchben ond dan donnau'r môr.
Fodd bynnag, mae'r stori am "dir wedi ei foddi"
a "chlychau mud" yn golygu mwy na cholli tir yn
unig - mae'r tir a'r diwylliant yn anwahanadwy - felly yr
hyn sy'n cael ei gladdu yma yw ysbryd cenedl a sn ei hiaith.
Mae "tirweddau dychmygol" Panorama (Min y Tir)
yn cyfeirio at y diwylliant hwn. Gallasai'r glas yn y dr sy'n
codi fod yn las Jac yr Undeb sydd wedi heintio cymaint ar
ein meddwl gwleidyddol. Mae'r rhesi o dai unffurf yn cyfleu'r
boblogaeth ddifater. Nid dyma dirlun Cymru mewn darluniau
na'r hyn a wêl yr ymwelwyr; dyma dir sydd â'i
hanes a'i chwedloniaeth yn rhan ohoni. Ceisir cysylltu'r gwyliwr
â rhywbeth sydd tu hwnt i'r gweledol, yn ddieithr ac
eto'n gyfarwydd; gellid adnabod y ffurfiau yn y mynyddoedd
o gwmpas Blaenau Ffestiniog, ar Benrhyn Llyn neu ar Fannau
Brycheiniog. Mae'r dirwedd hon bob tro yn od o debyg i wraig
feichiog. Pan ddechreuais ar y gyfres hon, dim ond mis oedd
gan fy ngwraig Sophie hyd at enedigaeth ein mab Elis, "cyfoeth
y byd" yn wir. Gyda gweithiau eraill fel Hunan mewn Tir
Beichiog (1995), Gwales (Ararat) (1997), Yng Nghysgod hen
Dduwiau (Ffigwr yn y dirwedd) (1997) a Ein tir (1998) gwelir
yn amlycach fyth y darlun byw o agwedd fenywaidd creadigedd
natur, wedi ei gysylltu'n farddonol a chwedlonol â thirwedd
a mater Cymru. Dyma hefyd y fan lle ceir gwrthdaro a thrafod,
cyfaddawdu a chymodi â'r duwiau rhyfelgar, yr adeiladau
ffalig o waith llaw dyn, y tyrrau godwyd carreg wrth garreg,
blociau adeiladu "diwylliant", nid rhan o natur
ond wedi eu gorfodi arni. Rhamantiaeth farddonol ar y naill
law a materoliaeth Farcsaidd ar y llaw arall. Gwlad fy nhadau
yw hon, ac eto yn ddwfn ynof, hi yw'r Famwlad.
Rydw i wedi addasu, ail-ddefnyddio a newid siâp y dirwedd
hon sydd mor drwm gan symbolaeth, a hynny oherwydd ei bod
hwyrach yn cyfeirio at y gobeithion sydd ynom; gobeithion
yw'r rhain am ddyfodol gwell, neu yn yr hen draddodiad, am
aileni. Daw eto haul ar fryn. Rydw i wedi naddu llawer o'm
hiaith weledol i bwynt lle mae bron â bod yn gynddelwaidd
- yn symbol tragwyddol o ffrwythlondeb ac yn graffiti hogyn
ysgol, yn ailddweud mewn amlinell. Tyfodd y tirluniau yn fwy
o faint ac ymgorfforent fwy o dechnegau aml-gyfrwng; daeth
paent olew yn ôl i fri ochr yn ochr â siarcol,
pastel ac emylsiwn ar gynfasau amrwd mawr (a ddangoswyd yn
arddangosfa y Prosiect Artistiaid, Ffiniau, yn Amgueddfa Celfyddyd
Fodern Zagreb ac yn Oriel Gerddi Howard yng Nghaerdydd ym
1997.
Offrymau ac Ail-ddyfeisiadau; Paentiadau a Chydosodiadau
Roedd Land-Mine/ Tir Ni ym 1998 yn ymateb i gomisiwn gan
Y Groes Goch Brydeinig a Swyddfa Ddyngarol Ewrop i wneud gwaith
rhyngweithiol i'w ddangos wrth lansio eu hymgyrch i godi ymwybyddiaeth
o ffrwydron tir. Darluniais dirwedd wag ar ffurf merch ar
ei lledorwedd, ar gynfas mawr. Ac allan o ddarlun o blentyn
wnaed gan fy mab Remi, lluniais stamp rwber y gallai pobl
yn y dyrfa ei ddefnyddio i ddod â'r plant yn ôl
i'r dirwedd, ac i wneud hynny'n llythrennol. Roedd llinellau
terfyn a llinellau ffiniau annaturiol yn pwysleisio'r problemau
achosid o'r dechrau gan drefedigaethu yn y rhannau hynny o'r
byd lle defnyddir ffrwydron tir fynychaf. Mae ystyr ddwbl
wrth gwrs i'r teitl.
Erbyn 1999, pan wneuthum Land-Mine/ Ein Tir 2, roeddwn wedi
cael cyfle i fyfyrio ar y ddelwedd hon ac mae a wnelo'r llun
fwy â'r syniad o Ynys Prydain, lle mae'r W yn dynodi
Wales, E yn dynodi England ac S yn dynodi Scotland, lleoedd
lle 'roedd yr iaith Gymraeg mewn bri unwaith, amser maith
yn ôl. Sgrifennwyd barddoniaeth Gymraeg yn Hen Deyrnasoedd
Gogleddol Rheged a Gododdin - erbyn hyn iseldir yr Alban.
Mae'r gerdd hir, Y Gododdin, a briodolir i Aneirin, yn gerdd
enwog sy'n coffáu ac yn galaru am y colledion ddioddefwyd
yn erbyn yr Eingl yng Nghatraeth, gan gadlu o Frythoniaid
o Fanaw Gododdin, ardal ar lannau deheuol Aber Gweryd. Yn
Y Mabinogi, a roddwyd ar gof a chadw gryn dipyn yn ddiweddarach,
adwaenir Teyrnas Brân neu Fendigeidfran fel Ynys y Cewri,
ac mae'n cwmpasu holl diroedd Prydain, sy'n dwyn i gof amserau
Brythonaidd-Rufeinig. Mae Land-Mine / Ein tir 2 yn adlewyrchiad
o'r hanes hwn - Mater Prydain, yr ymdeimlad o fod ar wahân
ac eto yn rhan o'r hyn sy'n gwneud hunaniaeth Gymreig mor
gymhleth. Gyda'r paentiad hwn fel mewn gweithiau eraill, mae'r
defnydd o'r lliwiau coch, gwyn a glas yn arwyddocaol mewn
ffordd isganfyddol, ar wahân i'r ffaith fy mod yn hoff
o'r lliwiau hynny. Mae myfyrdod o'r fath, ar yr amser arbennig
hwn, yn codi mater "hawl" hynafol a chyfoes i'r
tir; yn ddiarwybod fe'n hatgoffir o'r hyn ddigwyddodd yn Kosovo,
lle nad oes neb yn edrych yn haelfrydig ar hanes.
Daw duwdod arall i'r golwg yn y gyfres o weithiau sy'n dwyn
y teitl Yng nghysgod hen dduwiau. Mae Ianws ddauwynebog yn
cwhwfan uwchben y dirwedd, yn arwyddocáu golwg yn ôl
i'r gorffennol ac ymlaen i'r dyfodol ar yr un pryd. Dyma'r
gyfres o baentiadau enillodd Fedal Aur Celfyddyd Gain yn yr
Eisteddfod Genedlaethol ym 1997, ac yn addas iawn, yn Y Bala
yr oedd hynny. Parhaodd y presenoldeb yna, yn addas iawn,
i'r gyfres hunan-esboniadol Baneri i'r Cynulliad (1998) ac
i'r gwaith newydd sy'n cyhoeddi'r mileniwm newydd, Offrymau
ac Ail-ddyfeisiadau (1999). Mae'r duw Brythonaidd-Geltaidd
dauwynebog Ianws yn ymddangos uwchben y dirwedd a'r trigolion,
yn cael eu dynodi eto gan res o dai, tai sydd â dimensiwn
mytholegol, rhannol anghofiedig, yn cyniwair trwy eu bodolaeth.
Y duwiau yw'r hen dduwiau Cymreig y mae olion ohonynt yn aros
yng nghasgliad storïau'r Mabinogi, bellach wedi eu trawsnewid
yn feidrolion arwrol. Bradychir eu tarddiad goruwchnaturiol
gan eu dewrder a'u gallu anhygoel (yr un duwiau y rhoddwyd
cyfeiriad newydd iddynt gan yr eglwys Gristionogol gynnar
ac eto gan Fethodistiaeth Galfinaidd ac Anghydffurfiaeth,
gan yr "hen Iolo" a'i ail-ddyfeisiadau Derwyddol,
gan y Byd Newydd iwtopaidd, ac yn y blaen hyd y dydd heddiw).
Mae gwaith diweddar, megis y gyfres o amrywiadau thematig,
Ail-ddyfeisio Gwalia, yn ymgais i ail-ddyfeisio iconau hen
ffasiwn a hunaniaeth ddiwylliannol, gan gredu gwireb yr hanesydd,
y diweddar Athro Gwyn Alf Williams, sef bod hanes Cymru yn
un o Rwygo ac Ail-ddyfeisio.
Mae Ianws yn syllu ar y gorffennol a'r dyfodol ar yr un pryd,
gan archwilio'r gorffennol er mwyn atal pob diweddglo rhag
mygu ohonynt bob trafodaeth ar y dyfodol. Hwn oedd y Ianws
roes ei enw i fis Ionawr, mis cyntaf y flwyddyn ac yn ein
hachos ni, mis cyntaf canrif newydd a mileniwm newydd, gyda
Chymru am y tro cyntaf mewn 500 mlynedd yn meddu ar elfen
o hunan lywodraeth gwleidyddol. Adferwyd y wraig mewn gwisg
Gymreig, fu mor aml yn y gorffennol yn symbol o fywyd teuluol
digyffro ac anfygythiol, i rôl mam-dduwies, yn rhoi
genedigaeth i ddyfodol sydd, i'r rhiant hwn i dri o blant,
yn un gobeithiol os yn un ansicr. Hefyd caiff symbol arall
o'r flwyddyn newydd, y Fari Lwyd, penglog ceffyl addurnedig
gâi ei gario o dy i dy ar nos Galan mewn rhannau arbennig
o dde Cymru, ei recriwtio i'r pantheon o ail-ddyfeisiadau.
Mae ffigwr Ianws yn arwyddocaol gan ei fod yn symboleiddio
safle lle mae'r gorffennol a'r dyfodol yn cael eu harchwilio
er mwyn rhoi perthnasedd i'r presennol. Nid ymgais yn unig
i ail-greu gorffennol hanesyddol neu chwedlonol yw hyn, ond
ymgais i ddal pwysigrwydd seicolegol parhaus y gorffennol
ar gyfer y presennol.
Yn y paentiad diweddar Dam/Pont (1999), mae pennau Ianws,
a ddatblygwyd o'r darlun Ianws y Groesffordd, fel petaent
yn hofran o flaen yr argae, ac fel roeddwn i'n gweithio ar
y paentiad datblygodd yr argae i gynrychioli emosiynau oedd
wedi eu caethiwo ond a oedd yn dechrau gollwng trwodd; cyfeiriai
hefyd wrth gwrs at foddi cwm Tryweryn ger Y Bala. Daeth pont
islaw â'r dywediad "a fo ben bid bont" i'm
cof sydd, ar unwaith yn fy nhyb i, yn cyfeirio at y Cynulliad
Cymreig newydd. Mae'r bont isaf, sydd wedi ei gwneud o groesau,
yn dangos mor fychan oedd y mwyafrif pleidleisiau o'i blaid.
Ar yr adegau gorau hynny, pan fo paentiad yn datblygu'n dda,
pan fo fel petai yn paentio ei hun fel y dywedodd Phillip
Guston, nid yw ymddangosiad pethau megis y croesau a'r argae
yn rhywbeth bwriadol. Nid oedd sôn amdanynt yn y braslun
wnaed ymlaen llaw ac a ddaeth yn sail i'r paentiad. Mae'n
fater o reddf a menter, menter darlunio rhywbeth ddychmygwyd
mewn olew a mentro siawns o ddifetha'r paentiad, gan ymddiried
yn eich greddf. Mae defnyddio gludwaith yn ddull o weithio
sy'n lleihau'r risg, gan ei fod yn golygu gludio darnau o
gynfas sydd â darluniau arnynt. Gallaf eu symud o gwmpas,
gan dreulio oriau yn eu symud y mymryn lleiaf, ac yna hwyrach
y diwrnod wedyn eu symud oddi yno yn gyfan gwbl.
Pan fo'n gweithio, pan fydd yn "edrych yn iawn",
y duedd wedyn yw gweld "ystyr" ynddo, ac yna bydd
y risg yn rhoi boddhad mawr; ar y funud bydd popeth yn ei
le a'r cyfan yn gwneud synnwyr. Mae sut mae hyn yn digwydd
yn ddirgelwch, fel y dywedodd sawl paentiwr, ond rhaid ei
fod yn dangos yr isymwybod ar waith ochr yn ochr ag adnabyddiaeth
a dehongliad ymwybodol. Tra'n gweithio (yn dda) ar baentiad,
fe fydd yna godi a gostwng llwyr a chyson a chyfamserol bron
rhwng y ddau gyflwr o ymwybyddiaeth. Does ryfedd bod artistiaid
yn teimlo'n aml fod pwerau allanol yn eu llywio. Felly, yn
Dam/Pont er enghraifft, bydd cyfeiriadau symbolaidd at hanes
ac at ddigwyddiadau cyfoes yn graddol ymddangos. (Gellir dadlau
mai hwn oedd yr un foment hanesyddol dyngedfennol mewn hanes
modern a arweiniodd at weithredu gwleidyddol ac at gonsensws
ar yr angen am hunan-lywodraeth mewn gwleidyddiaeth Gymreig).
Bydd eraill yn debyg hefyd o weld cwch, tent, ffenics neu
löyn byw, y dirwedd Cymreig, wedi ei gynnwys mewn delwedd
sydd yn ei hanfod yn amlinell syml sy'n ein tywys ar hyd ffordd
tua'r dyfodol. Mae'r teitl wedi ei ddewis i ddileu unrhyw
deimlad o ryfeddod; wedi'r cwbl mae'r gair yn rheg ffrwydrol
yn y Gymraeg a'r Saesneg,
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Ogwr 1998, arddangosais
waith ar gyfer wal, cydosodiad wnaed o goed a adenillwyd,
darluniau bychain, modelau bach o wraig Gymreig a ddarganfyddais
mewn sêl cist car, gyda darlun o Ianws ddauwynebog,
mewn sialc ar lechen, yn ganolbwynt i'r cyfan. O'i osod ar
y wal, ymdebygai i silff ben tân, gan dynnu ei gyfeiriadaeth
o leoliad a phwysigrwydd canolog y lle tân i'r teulu
traddodiadol. Roeddwn i'n cyffelybu'r silff i ryw fath o allor
deuluaidd, wedi ei "ddodrefnu" â'i offrymau
- gwrthrychau gwerthfawr a phortreadau teuluol - rhyw fath
o addoli cyndadau hwyrach. Ar ôl ychwanegu "ffedog"
o gynfas coch lle'r arferai tân fod, dechreuodd ymdebygu
i wisg y "gwragedd Cymreig" eponymaidd. Fe'i gelwais
yn Gwir Ddychmygol (y wisg Gymreig), gan arwyddocáu
o bosibl, natur ddychmygol ein hunaniaeth yn gymaint â'r
wisg a ddychmygwyd yn rhannol. Roedd yn ddarn poblogaidd a
chafodd groeso gan gynulleidfa a welai ynddo yr hiwmor a'r
perthnasedd. Tra roedd y ffotograffydd Marian Delyth yn recordio'r
gwaith, perswadiwyd dwy foneddiges, oedd wedi eu gwisgo yn
seremonïol yn y wisg, i sefyll wrth ochr y gwaith, a
dyna gyfannu'r cylch syniadol yn grwn. Daeth y gwaith hwn
yn fan cychwyn i gyfres newydd o ddarnau wal tri dimensiwn,
yn ymgorffori delweddau iconig oedd wedi eu darlunio a'u paentio,
gydag effemera o seliau cist ceir, wedi eu dewis yn ofalus.
Hwyrach y gellid codi'r addurniadau rhad hyn o'r wraig Gymreig
i lefel y Forwyn Fair Gatholig mewn darnau allor Ciwbaidd
- duwies fodern yn adennill ei nerth ac yn gwneud offrymau
i'r dyfodol.
Gan barhau â'r thema hon, rwyf yr un pryd ag ysgrifennu
hwn, yn myfyrio ar y posibilrwydd o greu delw tri dimensiwn
fyddai'n cyfuno nodweddion y "wraig Gymreig" gyda'r
Ianws a'r Fari Lwyd. Felly y daw Mariona, y byddaf yn ei dychmygu,
nid fel cerflun fel y cyfryw, ond fel atgof o wrthrych lled
ddefodol, un fyddai'n cael ei hestyn allan ar adegau arbennig
o'r flwyddyn. Bydd crinolin ei sgertiau wedi eu gwneud o fandiau
metel, ei chorff o foncyff coeden, (un wedi ei ffurfio'n berffaith,
ac un y deuthum eisoes ar ei draws, yn nodweddiadol ddamweiniol).
Hyd yn hyn, mae'r pen(nau) yn ddirgelwch i mi. Gallaf ei dychmygu
felly, wedi ei chodi ar lwyfan uchel sydd wedi ei orchuddio
â chynfas coch ac, o bosibl, ei addurno â darluniau
bychain ac effemera.
Mae'r gorlif o waith graffeg, testun a darlun ar bapur neu
gynfas, y tu hwnt i gonfensiynau'r cyfrwng, i fewnosodiadau
a gwrthrychau tri dimensiwn, yn arwain yn naturiol at waith
safle. Rhydd hyn naws i'r gwaith, wedi ei fynegi â gwrthrychau,
testunau ac adnoddau eraill mwy traddodiadol sy'n gyffredin
i'r ymarfer o wneud gwaith safle. Rwy'n cael fy nenu llai
gan gelfyddyd mewnosodiadol Ewropeaidd na chan ei gymar Caribïaidd
neu Ladin-Americanaidd sydd ynghlwm fwy wrth y cymdeithasol,
y diwylliannol a'r politicaidd. Ar un ystyr mae hwn wedi ei
gysylltu'n agosach â'r byd real, trwy broses barhaus
o wneud gwaith safle, un ai yn yr Eglwys Gatholig neu yn y
darnau allor domestig Affro-Caribïaidd. Yn fy nghydosodiadau
i, ail-ymddengys nifer o symbolau a ddefnyddiwyd yn olynol
dros y blynyddoedd, ar ffurf tri dimensiwn - bydd ysgolion
go iawn yn cynnal silffoedd pen tân. Yn Salem (Capel
/Ysgol), mae'r silff ar siâp cwch, a gosodir darluniau
bychain ar gynfas ar y mur sy'n amgylchynu'r darn "icon"
canolog, gyda'r cyfan wedi ei "fframio" â
siapiau du wedi eu gludio'n uniongyrchol i'r wal. Rhydd y
teitl Cymraeg arlliw o'r symbolaeth, gan fod y gair Cymraeg
"ysgol" yn gyffredin i "school" a "ladder",
ac felly'n awgrymu proses gynyddol o ddysg ac ymdrech. Cyfeiria
"Capel" at natur ddiaddurn y gwaith hwn, o'i gyferbynnu
ag addurnwaith mwy trafferthus y darn tebyg i ddresel, Nodiadau
maes. Datblygodd y darn olaf hwn o'r syniad a gyflwynwyd gan
y beirniad a'r damcaniaethwr James T. Clifford, pan ddywedodd
:
Hwyrach nad oes droi'n ôl i unrhyw un i'w famwlad,
dim ond nodiadau maes ar gyfer ei hail-ddyfeisio.
Ar un ystyr, rydym i gyd yn ymbellhau fwyfwy oddi wrth ein
mamwlad, hyd yn oed tra'n byw ar ei thir. Bydd cist bacio
lluniau a achubwyd ac a berthynai ar un amser i Amgueddfa
Genedlaethol Cymru, yn llestr ar gyfer cludo neu ddiogelu
dychmygol. Fe'i harddangosir fel darn o ddodrefnyn digon tebyg
i ddresel, gyda'r gweithiau celf allai fod wedi eu cynnwys
ynddi (y "nodiadau maes ar gyfer ail-ddyfeisio")
yn cael eu harddangos arni neu o'i chwmpas, yn ddigon tebyg
i'r defnydd wneir heddiw o'r dresel Gymreig, mwy addurniadol
na defnyddiol - darn amgueddfaol domestig yn cynnwys ac yn
arddangos casgliad o drysorau teuluol.
Mae rhyw bresenoldeb tywyllach ac eithaf garw yn Salem, nid
yn gyfan gwbl fel y cofiaf i brofiad plentyn o fynd i'r capel.
Cyfeiria fwy at naws Salem, y paentiad enwog gan Curnew Vosper,
gydag anystwythder tybiedig a dylanwad Piwritanaidd y capeli
a'r hen drefn addysgol. O berthyn yn wastadol i'r gorffennol,
ymddangosai hyn i blentyn (ac yn wir i oedolyn heddiw) fel
rhywbeth digyfaddawd o lym. Dyma anghydffurfiaeth ar ei waethaf
anfaddeugar. Ond eto, darparodd ddigon o ddeunydd ar gyfer
ail-ddyfeisio. Y gwir yw, yn ol y ddamcaniaeth ddiweddar,
fod gormod o gapeli wedi eu codi gan fod yn rhaid i bob enwad
gael ei gapel ei hun ym mhob pentref, a dim ond canran o'r
boblogaeth gâi ei meddiannu gan ddysgeidigaeth grefyddol.
Mae mor wir â hanes ys dywed Dylan Thomas.
Bydd casglu syniadau yn digwydd o sawl ffynhonnell, ac fel
yr awgrymais, bydd hyn yn cynnwys darllen. Er bod y sefyllfa'n
gwella, rydym o hyd yn brin o ddeunydd ysgrifenedig am gelfyddyd
yng Nghymru. Yn ddiweddar, detholais a chyflwynais gasgliad
o draethodau gan amryw 'sgrifennwyr ac artistiaid yn delio
â rhai artistiaid arbennig (Certain Welsh Artists),
sef y rhai hynny fu yngln â'r Estheteg Warcheidiol,
y soniwyd amdano yn gynharach. Mae Estheteg Warcheidiol yn
esbonio safbwynt, lle mae gwaith yr artist, yn fwriadol neu
yn yr is ganfyddiad, yn tynnu ar bethau penodol mewn diwylliant
Cymreig, un ai fel sylwadaeth llwyr wleidyddol neu un gymdeithasol,
ar hunaniaeth heddiw; neu dan ddylanwad lleoliad a chefndir,
mewn gair : ffurfiant. Fel y gwelsom eisoes, datblygodd Raymond
Williams ddamcaniaeth a seiliwyd ar Ffurfiant a Chyfliniad
(Formation and Alignment). I ddilyn damcaniaeth Williams,
gallem ddweud mai "cyfliniad" gydag elfennau o "ffurfiant"
sy'n gwneud gwaith yr artistiaid hyn yn benodol i le arbennig.
Hwyrach mai'r geiriau Cymraeg gorau am Estheteg Warcheidiol
yw "Cof Cenedl"; gallai hyn alw ar "gof llwythol"
neu "gof pobl gyfunol". Mae'r drafodaeth sydd yn
y llyfr yn troi o gwmpas ystyr a dehongliad y geiriau hyn.
O'm rhan i, a gobeithiaf fod y rhagymadrodd i'r gyfrol yn
cadarnhau hyn, nid cangen o'r diwydiant treftadaeth yw estheteg
warcheidiol (ac rwy'n cynnwys fy ngwaith fy hun yn hyn), nid
cadwraeth o'r pethau a fu ond rhywbeth byw. Fel mewn "Cof
Cenedl", rydym yn sownd wrth ddarn hir o linyn ac yn
rhan ohono, (h.y. ni yw'r llinyn ar y pwynt arbennig hwn mewn
amser), gan fynd ymlaen i'r dyfodol. Fel y dywedodd y bardd
Gerallt Lloyd Owen:
Nid yw Hanes ond ennyd;
A fu ddoe a fydd o hyd. 12
|